Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 20 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.25 - 12.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Rebecca Evans AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Professor Peter Barrett-Lee, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Dr Richard Clements, Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr Dr Martin Rolles, Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr Dr Alan Rees, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Dr Miles Allison, Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru Jared Torkington, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc
2.1. Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w lythyr.
2.2. Cytunodd aelodau'r Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion canlynol:
3 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 12
3.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 13
4.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.2. Gofynnodd Leighton Andrews AC am nodyn gan Lywodraeth Cymru am yr enghraifft a roddwyd gan Jared Torkington o gynllun hyfforddiant a gyflwynwyd yng Nghymru ar gyfer llawdriniaeth y colon a'r rhefr laparosgopig.
5 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 14
5.1. Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
5.2. Dywedodd y Dr Nazia Hussain y byddai'n darparu:
6 Papurau i’w nodi
6.1. Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2014.
Adroddiad am waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Nododd yr Aelodau eu siom sylweddol bod canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u datgelu cyn pryd.
Trafododd yr Aelodau ddatganiad gan y Gweinidog a gyhoeddwyd y bore hwnnw yn ymwneud â threfniadau newydd ar gyfer ymdrin â phryderon difrifol ynghylch gwasanaethau a sefydliadau'r GIG. Holodd yr Aelodau ynghylch amseriad y datganiad, o ystyried ei fod yn berthnasol i adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Eglurwyd ar ôl y cyfarfod bod y datganiad wedi deillio o waith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yng nghyswllt trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 1 a 2 o'r cyfarfod ar 26 Mawrth.
7.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.